Skip to content

Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol Awdurdod Lleol, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am wastraff trefol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 3 Tachwedd 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin yn cynnwys gwybodaeth am faint o wastraff trefol awdurdodau lleol a gasglwyd o gartrefi a ffynonellau sydd ddim yn gartrefi, a lefelau ailgylchu yng Nghymru. Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn berthnasol i 2010-11, ynghyd â ffigurau'r blynyddoedd blaenorol.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae cyfanswm y gwastraff trefol awdurdodau lleol, ac eithrio cerbydau sydd wedi eu gadael, a gynhyrchir yng Nghymru wedi parhau i ostwng ers ei uchaf yn 2004-05, gyda 1.62 miliwn o dunelli yn cael ei gynhyrchu yn 2010-11.
  • Er bod cyfanswm y gwastraff sydd wedi ei dirlenwi wedi parhau i ddisgyn, parhaodd i fod y prif ddull o reoli gwastraff trefol awdurdodau lleol  gyda 0.8 miliwn o dunelli’n cael ei dirlenwi yn 2010-11, a gyfrifodd am 51 y cant o holl wastraff.
  • Mae canran y gwastraff trefol awdurdodau lleol (ac eithrio cerbydau sydd wedi eu gadael) sy'n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi bod yn cynyddu'n barhaus ers 2000-01 i dros 45 y cant yn 2010-11. O’i gymharu mae cyfradd Dangosydd Strategol Cenedlaethol (sy’n defnyddio diffiniad ychydig yn wahanol) ychydig yn is, 44 y cant.
  • Yn flaenorol roedd cyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu/compostio ar gyfer gwastraff cartrefi ar lefelau is na holl wastraff trefol awdurdodau lleol, fodd bynnag yn fwy diweddar maent wedi cysoni gyda 45 y cant o wastraff cartrefi yn cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yn 2010-11.
  • Yn 2010-11, Sir Ddinbych oedd yr awdurdod lleol â’r gyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio uchaf (56.8 y cant), tra Blaenau Gwent oedd â’r gyfradd isaf (35.5 y cant).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')