Skip to content

Rhestrau Ddatganoledig Gweinyddiaeth Nwy Tŷ Gwydr, 1990-2010

Ar ddydd Mawrth 17eg o Orffennaf, cyhoeddwyd y Rhestrau Datganoledig Gweinyddiaeth Nwyon Tŷ Gwydr 1990-2010 drwy wefan Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol (NAEI).

Mae'r adroddiad yn cyflwyno amcangyfrifon o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig ar sail, 'yn ôl ffynhonnell' ac ar sail 'defnyddwyr olaf'. Mae rhestrau ar wahân o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr wedi eu hamcangyfrif ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar gyfer y blynyddoedd 1990, 1995 a 1998 i 2010.

Bydd y wybodaeth a gyhoeddir yn yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i sefydlu gwaelodlin 2006-2010.  Yn erbyn hyn mesurir ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau yng Nghymru wrth 3% y flwyddyn erbyn 2011, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar y wefan NAEI.

Y pwyntiau allweddol ar gyfer Cymru yw:

  • Yn gyffredinol, ers y flwyddyn sylfaen (1990/1995), mae allyriadau o'r fasged o nwyon tŷ gwydr wedi gostwng. Yn 2010, amcangyfrifwyd bod cyfanswm o 46.6 miliwn tunnell o allyriadau cyfatebol i garbon deuocsid (CO2), gostyngiad o 15 y cant o'i gymharu ag allyriadau'r flwyddyn sylfaen.
  • Bu cynnydd o tua 8 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2010, o’i gymharu â 2009.  Roedd hyn oherwydd cynnydd yn y sectorau preswyl, busnes a phrosesau diwydiannol.  Gall y cynnydd fod wedi’i effeithio gan y gaeafau oer ar ddechrau a diwedd 2010, a chynnydd mewn cynhyrchu haearn a dur.
  • Mae’r  brif ffynhonnell o allyriadau yn parhau i fod yn y sector ynni, sy'n cynhyrchu 36 y cant o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mewn cymhariaeth, busnes yw’r ail ffynhonnell fwyaf, yn cyfrif am 21 y cant o allyriadau yn 2010.
  • Mae gan Gymru gyfran uwch o allyriadau masnachu a gwmpesir gan Gynllun Masnachu Allyriadau'r UE na gweddill y DU, cyfeirir ato fel y sector ‘fasnachu'. Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfran uchel o ddiwydiant trwm a chynhyrchu trydan yng Nghymru (ee gollyngiadau o orsafoedd ynni, purfeydd a gwaith integredig haearn a dur). O ganlyniad, dim ond 48.4 y cant o gyfanswm allyriadau CO2 yng Nghymru cafodd eu cynhyrchu gan y 'sector di-fasnachu' yn 2010.
  • Wrth ystyried allyriadau o’r defnyddwyr yn hytrach na chynhyrchwyr ynni, pan fo allyriadau yn sgil cyflenwi ynni yn cael eu hail-ddyrannu i ddefnyddwyr terfynol yr ynni, amcangyfrifir y bu gostyngiad o dros 22 y cant ers y flwyddyn sylfaen (nid yw'r ffigur hyn yn cynnwys allyriadau allforio).
  • Mae Cymru, gyda chyfran lai o allyriadau defnyddiwr olaf y DU, o'i gymharu â'r amcangyfrifon yn ôl ffynhonnell, ac mae wedi cyflawni gostyngiadau allyriadau uwch ers y flwyddyn sylfaen na mae’r rhestrau yn ôl ffynhonnell yn ei awgrymu.

Nid yw'r ffigurau hyn yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2013 (Dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen ‘i’w cyhoeddi cyn hir')