Skip to content

Monitro Ystadegau Tân, Chwarter 2 a 3 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol (dros dro) diweddaraf ar danau, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 26 Ionawr 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau dros dro ar danau yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at 30 Medi 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 23 Mehefin 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Tanau:

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 33,000 o danau a chamrybuddion tân yn ystod y flwyddyn sy’n diweddu 30 Medi 2011, gostyngiad o 16 y cant o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.
  • Bu gostyngiad o 11 y cant yn y nifer o brif danau yng Nghymru o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Anafiadau:

  • Cafwyd 22 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn sy’n diweddu 30 Medi 2011, gostyngiad o’r 26 a’u cafwyd yn y cyfnod blaenorol.
  • Cofnodwyd 241 o anafiadau, ac fe wnaeth 331 arall dderbyn cymorth cyntaf, cael eu hanfon am brofion rhagofalus neu gael eu cynghori i geisio cyngor meddygol.

Camrybuddion Tân:

  • Yn ystod y flwyddyn sy’n diweddu 30 Medi 2011, cafwyd 15,800 o gamrybuddion tân yng Nghymru, gostyngiad o 9 y cant o’r 17,300 yn y cyfnod blaenorol.
  • Bu 700 o gamrybuddion tân maleisus yn ystod y cyfnod, gostyngiad o 18 y cant o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen i'w gyhoeddi cyn hir)