Skip to content

Anafiadau Tân Gwyllt, 2000

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynhelir arolwg bob blwyddyn am gyfnod o 4 wythnos, o gwmpas noson Tân gwyllt sef 5 Tachwedd, i gasglu data am anafiadau a achoswyd gan dân gwyllt (ond nid coelcerthi) sy'n cael eu trin yn unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru.
Mae'r bwletin hwn yn nodi nifer cyffredinol yr anafiadau oherwydd tân gwyllt a'r tueddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hyd at 2000.

Yn 2000:

  • Parhaodd nifer yr anafiadau tân gwyllt a gafodd eu trin yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn gyson â lefel 1999 - sef 52.
  • Cynyddodd nifer yr anafiadau a fu mewn partïon teuluol/preifat i 27, sef cynnydd o 8.
  • Ffyn wreichion oedd prif achos anafiadau, gyda'r nifer yn cynyddu o 5 ym 1999 i 8.
  • Digwyddodd dros hanner yr holl anafiadau (30) i unigolion rhwng 5 a 15 oed.
  • Anafiadau i'r pen a'r dwylo oedd fwyaf cyffredin (32), gyda chynnydd yn nifer yr anafiadau i'r pen a gostyngiad yn nifer yr anafiadau i'r dwylo.
  • Cafodd 32 o wrywod ac 20 o fenywod driniaeth am anafiadau oherwydd tân gwyllt, o'i gymharu â 39 ac 13 ym 1999.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk 

Diweddariad nesaf

Hydref 2002