Skip to content

Cleifion mewn Ysbytai ac Unedau Seiciatryddol, 31 Mawrth 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r datganiad hwn yn rhoi crynodeb o ganlyniadau cyfrifiad Mawrth 2004 o'r cleifion sydd mewn ysbytai ac unedau seiciatryddol y GIG yng Nghymru.

Mae'r cyfrifiad yn cynnwys cleifion mewn ysbytai seiciatryddol yn ogystal ag unedau seiciatryddol mewn ysbytai a allai fod yn arbenigo mewn meysydd eraill. Nid yw'r cyfrifiad yn cynnwys pobl o Gymru sy'n gleifion mewn ysbytai yn Lloegr.

Mae ysbytai ac unedau seiciatryddol yn cynnwys y rheini ar gyfer cleifion sydd ag anabledd dysgu yn ogystal â chleifion â salwch meddwl. Caiff peth data am ddefnydd gwelyau ei gynnwys hefyd er mwyn gallu gwneud cymariaethau manylach.

Cleifion preswyl â salwch meddwl yng Nghymru ar 31 mawrth 2004:

  • Roedd nifer y cleifion wedi gostwng o 22 y cant i 2,152 ers 1994 gyda nifer y gwelyau yn gostwng o 31 y cant dros yr un cyfnod.
  • Cafodd 498 o gleifion (23 y cant o gleifion) eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill o'i gymharu â 398 o gleifion (16 y cant) yn 1994.
  • Roedd 1,090 o'r cleifion yn fenywod o'i gymharu â 1,062 o ddynion. Roedd 57 y cant o'r cleifion a oedd yn fenywod yn 65 mlwydd oed neu hyn o'i gymharu â 38 y cant o'r dynion.

Cleifion preswyl ag anabledd dysgu yng Nghymru ar 31 Mawrth 2004:

  • Roedd nifer y cleifion wedi gostwng 78 y cant i 199 ers 1994. Roedd nifer y gwelyau a oedd ar gael wedi gostwng 77 y cant dros yr un cyfnod.
  • Cleifion a oedd wedi bod yn breswyl am 2 flynedd neu fwy oedd yn gyfrifol am 99% o'r gostyngiad ers 1995.
  • Roedd 67 o'r cleifion yn fenywod a 132 yn ddynion o'i gymharu â 325 yn fenywod a 466 yn ddynion ym 1995. Roedd 19 o gleifion, 9.5 y cant o'r cyfanswm, yn cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2005 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)