Skip to content

Anafiadau Tân Gwyllt, 2003

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynhelir arolwg bob blwyddyn am gyfnod o 4 wythnos, o gwmpas noson Tân gwyllt sef 5 Tachwedd, i gasglu data am anafiadau a achoswyd gan dân gwyllt (ond nid coelcerthi) sy'n cael eu trin yn unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru.
Mae'r bwletin hwn yn nodi nifer yr anafiadau a fu o ganlyniad i dân gwyllt a'r tueddiadau yn ystod blynyddoedd diweddar, hyd at 2003.

Yn 2003:

  • Cafodd 99 o bobl ag anafiadau gan Dân gwyllt driniaeth yn ysbytai'r GIG yng Nghymru, sef cynnydd o 73 ers y flwyddyn flaenorol.
  • Dyblodd nifer yr anafiadau a fu mewn partïon Teuluol / Preifat o 28 i 55.
  • Rocedi oedd prif achos anafiadau gyda'r nifer yn cynyddu o 9 yn 2002 i 20.
  • Digwyddodd dros draean o anafiadau (35) i'r rhai rhwng 5 a 15 oed.
  • Anafiadau llaw oedd y rhai mwyaf cyffredin gyda'r nifer yn cynyddu o 29 yn 2002 i 41.
  • Cafodd 61 o wrywod a 38 o fenywod driniaeth am anafiadau gan dân gwyllt mewn cymhariaeth â 42 a 31 yn 2002.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2005 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)