Skip to content

Deintyddion y GIG, 2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno crynodeb o ystadegau ar Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol (YDC), sy'n trin rhai cleifion y GIG yng Nghymru (fe'u gelwir yn 'Ddeintyddion y GIG' yn y Bwletin hwn).
Mae'n tynnu sylw at rai o'r tueddiadau dros y degawd diwethaf. Nid yw'r brîff yn cynnwys gwybodaeth am ddeintyddion sy'n gweithio mewn ysbyty neu mewn gwasanaeth deintyddol cymunedol. Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa ar 30 Medi 2004 ac fe'u derbyniwyd oddi wrth y Bwrdd Ymarfer Deintyddol (Saesneg yn unig).

Ar 30 Medi 2004:

  • Roedd 927 o brif ddeintyddion yng Nghymru, 8 yn fwy nag oedd ym mis Medi y flwyddyn gynt.
  • Roedd 1,024 o ddeintyddion o bob math yng Nghymru, 6 yn fwy nag oedd ym mis Medi y flwyddyn gynt.
  • Mae dosbarthiad oed deintyddion y GIG wedi newid ers 1994, gyda mwy dros 40 oed - 48 y cant i 56 y cant.
  • Yn ystod y degawd diwethaf mae canran deintyddion y GIG sy'n fenywod wedi cynyddu o 25 y cant i 32 y cant.
  • Mae gan Fwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych y nifer fwyaf o ddeintyddion fesul pen o'r boblogaeth ac mae gan Geredigion y nifer lleiaf.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost:stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2006 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir )