Skip to content

Ystadegau Offthalmig, 2004-05

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ceir yn y bwletin hwn wybodaeth grynodol am y gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol ar gyfer 2004-05 a'r blynyddoedd blaenorol. Ceir y data o wybodaeth a ddarparwyd gan y Byrddau Iechyd Lleol ac a anfonwyd i'r Adran Iechyd.

Profion Golwg y GIG yn 2004-05:

  • Talwyd am 655,550 o brofion golwg gan y GIG, cynnydd o 1.5 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 45 y cant o brofion golwg y GIG ar gyfer pobl 60 oed a drosodd.
  • Roedd 21 y cant o brofion golwg y GIG ar gyfer plant o dan 16 ac roedd 19 y cant ar gyfer pobl ar incwm isel / a dderbyniai fudd-daliadau.
  • Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy a dalodd am y nifer uchaf o brofion golwg y GIG fesul 1,000 o'r boblogaeth.

Y Gweithlu a'r Adeiladau - Rhagfyr 2004 (1)

  • Roedd yna 672 o ymarferwyr yn cynnal profion golwg y GIG, 43 (7 y cant) yn fwy na'r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 78 y cant ers mis Rhagfyr 1980.

Nodiadau

(1) Mae'r holl ddata yn cyfeirio at ymarferwyr, ar 31 Rhagfyr, sydd â chontract i gynnal profion golwg y GIG. Mae hefyd yn cynnwys, ers 2001, locymau ac ymarferwyr sy'n cael eu cyflogi mewn practis symudol ar eu rhestri.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2006 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)