Skip to content

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Galw Iechyd Cymru, Chwarter sy'n dod i ben Medi 2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Galw Iechyd Cymru yn llinell gymorth 24 awr lle y mae nyrsys yn cynnig cyngor cyfrinachol am iechyd, salwch a'r GIG.
Mae Galw Iechyd Cymru yn parhau i ehangu yr ystod o wasanaethau a gynigir yn ogystal â'r llinell gymorth 0845, sydd bellach yn cynnwys gwasanaethau meddygol y tu allan i oriau arferol ar gyfer 3 Bwrdd Iechyd Lleol, galwadau blaenoriaeth (triage) a drosglwyddwyd o adrannau damweiniau ac achosion brys, llinell gymorth ddeintyddol a galwadau sy'n ymwneud â Her Iechyd Cymru.

Ers cychwyn y gwasanaeth mae'r galwadau heblaw'r rhai 0845 wedi cynyddu fel canran o gyfanswm y galwadau a bellach maent yn gyfystyr â bron i draean o'r holl alwadau i Galw Iechyd Cymru.

Dangosir cyfanswm y galwadau a nifer y galwadau lle y mae pobl yn dewis cael siarad yn Gymraeg am y cyfnod o fis Hydref 2000 i fis Mehefin 2005 isod.

Crynodeb

  • Derbyniodd Galw Iechyd Cymru dros 87,500 o alwadau yn ystod y cyfnod o dri mis rhwng Gorffennaf 2005 a Medi 2005. Dyma leihad o 9 y cant ers y chwarter blaenorol. Serch hynny, o gymharu blwyddyn â blwyddyn, gwelir cynnydd o 2 y cant yn ystod y chwarter o fis Gorffennaf i fis Medi yn 2004-05.
  • Yn ystod y 12 mis hyd at Medi 2005, derbyniodd y gwasanaeth 407,000 o alwadau; cynnydd o 30 y cant o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
  • Yn ystod y tri mis hyd at Medi 2005, derbyniodd Galw Iechyd Cymru 1,400 o alwadau gan bobl a oedd yn dymuno cael siarad yn Gymraeg. Dyma leihad o 8 y cant o'i gymharu â’r un chwarter yn 2004 ac yn gyfystyr â 2 y cant o'r holl alwadau.
  • Derbyniwyd dros 60,000 o alwadau i'r gwasanaeth 0845 a 28,000 o alwadau i wasanaethau eraill Galw Iechyd Cymru. Galwadau i Wasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu oedd y rhan fwyaf o'r rhain.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3598
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

9 Tachwedd 2005