Skip to content

Gwasanaethau Atal-cenhedlu Cymunedol, 2004-05

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi'r data am wasanaethau atal-cenhedlu cymunedol wedi'u darparu gan glinigau yng Nghymru.

Ffeithiau Allweddol:

  • ymwelodd bron 52,000 o fenywod a bron 4,700 o ddynion â chlinigau i ofyn am wasanaethau atal cenhedlu;
  • roedd mwy na thraean o’r menywod (36 y cant) a ymwelodd â chlinigau o dan 20 oed, o’i gymharu â 24 y cant ym 1994-95;
  • dewisodd mwy na hanner y menywod a ymwelodd â chlinigau y bilsen fel dull atal cenhedlu (51 y cant), gydag ychydig yn llai na chwarter (23 y cant) yn dewis y condom;
  • ymwelodd ychydig dros 6,800 o fenywod â chlinig cynllunio teulu i ofyn am atalydd cenhedlu brys – cynnydd o 125 y cant ers 1994-95.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5036
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2007 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)