Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru (Amseroedd Aros Damweiniau ac Achosion Brys gynt): Ionawr 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyhoeddi'n fisol ac mae'n nodi'r amser a dreuliwyd gan gleifion yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (DAB) Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Mae'r datganiad yn adrodd ar berfformiad yr Ymddiriedolaethau ar gyfer y prif adrannau DAB, unedau DAB/mân anafiadau eraill, a'r holl gyfleusterau gofal brys eraill mewn ysbytai ac mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng Ionawr 2007 ac Ionawr 2008.

Canlyniadau allweddol:

  • Treuliodd 88.8 y cant o gleifion lai na 4 awr rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu'u rhyddhau. Mae hyn yn ostyngiad o 1.1 pwynt canran o'i gymharu â mis Rhagfyr 2007.
  • Treuliodd 97.7 y cant o gleifion lai nag 8 awr rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu'u rhyddhau. Mae hyn yn ostyngiad o 0.8 pwynt canran o'i gymharu â mis Rhagfyr 2007.

Ffigurau dros dro yw'r holl ffigurau ar gyfer mis Ionawr 2008

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk