Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru (Amseroedd Aros Damweiniau ac Achosion Brys gynt): Chwefror 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyhoeddi'n fisol ac mae'n nodi'r amser a dreuliwyd gan gleifion yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (DAB) Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Mae'r datganiad yn adrodd ar berfformiad yr Ymddiriedolaethau ar gyfer y prif adrannau DAB, unedau DAB/mân anafiadau eraill, a'r holl gyfleusterau gofal brys eraill mewn ysbytai ac mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng Chwefror 2007 ac Chwefror 2008.

Canlyniadau allweddol:

  • Treuliodd 90.8 y cant o gleifion lai na 4 awr rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu'u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 2.0 pwynt canran o'i gymharu â mis Ionawr.
  • Treuliodd 98.0 y cant o gleifion lai nag 8 awr rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu'u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 0.3 pwynt canran o'i gymharu â mis Ionawr.

Ffigurau dros dro yw'r holl ffigurau ar gyfer mis Chwefror 2008.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk