Skip to content

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig A Therapi GIG Cymru: Ddiwedd Ebrill 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi penodedig (gweler y datganiad am fanylion o’r gwasanaethau a gynhwysir) ar gyfer y GIG yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 11 Mehefin 2008, yn unol a'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau am amseroedd aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer pob claf, pa bynnag ardal maen nhw'n byw ynddo, sy'n aros am wasanaethau diagnostig a therapi mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Ebrill 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Mai 2008.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Bu cynnydd o 4,974 i 5,208 yn nifer y bobl a fu'n aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig.
  • Bu gostyngiad o 3,835 i 3,113 yn nifer y bobl a fu'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapy.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru

Cyswllt

Ffôn: 029 2080 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk