Skip to content

Oedi wrth Drosglwyddo Gofal: Medi 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 28 Hydref 2008, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn cynnwys data ar gyfer Cymru ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 17 Medi 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2008.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Cyfanswm y cleifion a gafodd brofiad o oedi wrth drosglwyddo gofal ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 17 Medi 2008, oedd 548; mae hyn yn gynnydd o 5, neu 1 y cant, o'i gymharu â chyfanswm y cleifion a gafodd brofiad o oedi wrth drosglwyddo gofal ar 20 Awst 2008.
  • Cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i adael y GIG oedd 363.  O blith y rhain, roedd 98 wedi'u cadw mewn cyfleusterau iechyd meddwl, ac roedd 265 mewn ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol eraill. Roedd cyfanswm o 107 o gleifion ychwanegol yn profi oedi wrth drosglwyddo oddi mewn i'r GIG neu'n aros am asesiad ac, yn achos 78 o gleifion, nid oedd modd pennu'r cam nesaf.
  • Canolrif hyd yr oedi ar gyfer cleifion a oedd yn aros i adael y GIG oedd 44 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk