Skip to content

Camddefnyddio Sylweddau, 2007-08

Dolenni perthnasol

Mynediad at adroddiadau sy'n cynnwys ystadegau ar gamddefnyddio sylweddau.
Cafodd yr ystadegau diweddaraf ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, a baratowyd gan Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru, eu rhyddhau ar 30 Hydref 2008 yn unol â’r trefniadau a awdurdodwyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Mae'r ystadegau ar Gamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer y flwyddyn a oedd yn dod i ben ym mis Mawrth 2008 am gleientiaid a welwyd gan asiantaethau trin cyffuriau ac alcohol. Eir ati yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf i ddiweddaru'r ystadegau a gafodd eu rhyddhau o'r blaen ar 22 Tachwedd 2007.

Prif ffynhonnell y data hwn yw Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau sy'n cael ei chadw gan Atebion Iechyd Cymru. Yr unig bobl y mae'r data'n ymdrin â hwy yw'r bobl hynny sy'n cael eu gweld gan y gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ac mae'n bosibl mai cyfran yn unig o'r holl bobl sy'n camddefnyddio sylweddau yw'r rhain. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau eraill, gan gynnwys gwybodaeth oddi wrth ysbytai, gwybodaeth am farwolaethau a data a gedwir gan yr heddlu.

Bydd y data yn yr Adroddiad hwn yn wahanol i'r data mewn Adroddiadau a gyhoeddwyd eisoes ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, a hynny am fod y data wedi'i adolygu/diweddaru.

Dyma'r pwyntiau allweddol o'r adroddiad diweddaraf:

  • Hysbyswyd y gronfa ddata am 27,744 o achosion lle'r atgyfeiriwyd pobl er mwyn cael triniaeth am eu bod yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
  • Dynion oedd 69% o'r rheini a atgyfeiriwyd.
  • Roedd 55% o'r achosion a atgyfeiriwyd yn gysylltiedig ag alcohol.
  • Mae heroin yn cynrychioli 53% o'r holl atgyfeiriadau a oedd yn cofnodi problem defnyddio cyffuriau.
  • Pobl yn eu cyfeirio eu hunain oedd y dull mwyaf cyffredin o atgyfeirio yn achos alcohol (32%) a chyffuriau (24%).
  • Oedran canolrifol y bobl a atgyfeiriwyd am mai alcohol oedd y sylwedd a oedd yn achosi'r broblem fwyaf iddynt oedd  37 oed ac yn achos cyffuriau, roedd yn 29 oed.
  • Mae'r amser y bu'n rhaid iddynt aros cyn cael eu hasesu wedi'i gyfrifo ar gyfer 12,403 o gleientiaid y cofnodwyd y dyddiadau atgyfeirio ac asesu ar eu cyfer;  cafodd 56% eu hasesu yn unol â'r targed o 10 diwrnod gwaith.
  • Mae'r amser y bu'n rhaid iddynt aros cyn cael triniaeth wedi'i gyfrifo ar gyfer 11,069 o gleientiaid y cofnodwyd y dyddiadau atgyfeirio ac asesu ar eu cyfer;  cafodd 95% driniaeth yn unol â'r targed, sef ymhen 10 diwrnod gwaith iddynt gael eu hasesu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk