Skip to content

Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu GIG Cymru ar gyfer Apwyntiadau Cleifion Allanol: Medi 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 5 Tachwedd 2008, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a ddaeth i law yn Ymddiriedolaethau GIG Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn cynnwys data am y cyfnod rhwng mis Medi 2007 a mis Medi 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd gynt ar 1 Hydref 2008.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Nifer yr atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a ddaeth i law yn Ymddiriodolaethau GIG Cymru oedd 59,828 ym mis Medi 2008;
  • Roedd hyn yn gynnydd o 18.0% o'i gymharu â mis Medi 2007 a chynnyd o 18.4% o'i gymharu â mis Awst 2008.

Ffigurau dros dro yw'r holl ffigurau sy'n ymwneud â Medi 2008.

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3471
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk