Skip to content

Staff a Gyflogir yn Uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr ystadegau diweddaraf ar nifer y staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG, a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eu cyhoeddi ar 3 Mawrth 2009 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Mae’r ystadegau’n cynnwys data ar staff mewn swyddi ar 30 Medi 2008.  Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd eisoes ar 20 Mawrth 2008.

Rhwng 2007 a 2008 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):

  • Bu cynnydd o 560 (0.8%)yn nifer staff y GIG a gyflogir yn  uniongyrchol i 71,467.
  • Bu cynnydd o 51 (1%) yn y staff meddygol a staff deintyddol i 5,571.
  • Bu cynnydd o 74 (4%) yn nifer ymgynghorwyr meddygol ysbytai i 1,893.
  • Bu gostyngiad o 9 (18%) yn nifer ymgynghorwyr deintyddol ysbytai i 40.
  • Bu gostyngiad o 253 (0.9%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 27,806.
  • Bu gostyngiad o 17 (0.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd â chymhwyster i 21,426.
  • Bu gostyngiad o 237 (4%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd heb gymhwyster i 6,380.
  • Bu cynnydd o 188 (2%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 10,842.
  • Bu cynnydd o 25 (0.2%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 16,056.
  • O hynny bu gostyngiad o 45 (2%) yn nifer y rheolwyr i 2,755.

Caiff data manylach, gan gynnwys gwybodaeth ar lefel safle ei gyhoeddi ar safle StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk