Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru: Chwefror 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 19 Mawrth 2009 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Chwefror 2008 ac Chwefror 2009. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Treuliodd 87.4 y cant o gleifion llai na 4 awr mewn Adran Fawr Damweiniau ac Achosion Brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 1.3 pwynt canran o’i gymharu â mis Ionawr.
  • Treuliodd 97.1 y cant o gleifion llai nag 8 awr mewn Adran Fawr Damweiniau ac Achosion Brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 0.6 pwynt canran o’i gymharu â mis Ionawr.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau ar gyfer mis Chwefror 2009.

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5064
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk