Skip to content

Ystadegau Mamolaeth, Cymru: dull geni, 1998-2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Ystadegau Mamolaeth, Cymru: dull geni, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 25 Mawrth 2009, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau am Ystadegau Mamolaeth, Cymru: dull geni yn cynnwys data yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2008. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 18 Mawrth 2008.

Cofrestrwyd bron i 34,400 o enedigaethau byw yng Nghymru yn 2007 (darparwyd data gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Cafodd ychydig llai na 4 y cant ohonynt eu geni ar yr aelwyd neu mewn man arall; ganed y mwyafrif (96%) mewn ysbyty neu sefydliad tebyg. Mae'r Datganiad hwn yn cyflwyno data ar y dull o eni babanod mewn ysbytai yn unig.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar gofrestru genedigaethau'n rheolaidd ac fe'i cynhwysir yng nghyhoeddiadau ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cyrmu.

Bu cynnydd yng nghyfran y genedigaethau Cesaraidd mewn ysbytai, o 21 y cant ym 1998-99 i 26 y cant yn 2007-08. Byddai amcangyfrif o gyfradd genedlaethol y genedigaethau Cesaraidd yn gorfod cynnwys y genedigaethau ar yr aelwyd ac mewn mannau eraill.  Byddai hynny'n rhoi cyfradd o 25.9 y cant i Gymru yn lle 26.1 y cant.

Yn 2007-08:

  • cafodd 18 y cant o'r mamau o dan 20 oed doriad Cesaraidd. Mae hyn yn cymharu â 38 y cant o'r mamau dros 40 oed.
  • cafodd 69 y cant o'r mamau o dan 20 oed faban heb gymorth. Mae hyn yn cymharu â 50 y cant o'r mamau dros 40 oed.
  • roedd y rhan fwyaf o famau a esgorodd yn perthyn i'r grŵp 25-34 oed, hynny ar gyfer pob math o enedigaeth.
  • arhosodd 45 y cant o famau a esgorodd trwy doriad Cesaraidd yn yr ysbyty am 4 diwrnod neu fwy. Fodd bynnag, dim ond 11 y cant o'r mamau a esgorodd heb gymorth arhosodd yn yr ysbyty am 4 diwrnod neu fwy.
  • cafodd 18 y cant o’r holl enedigaethau yng Nghymru eu hysgogi, gyda 3 y cant ohonynt wedi’u hysgogi’n llawfeddygol ac 15 y cant yn cael eu hysgogi drwy ddulliau eraill.
  • y prif gymhlethdod yn ystod esgor a genedigaeth oedd rhwygiadau'r perinëwm, a gofnodwyd mewn 34 y cant o’r genedigaethau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3598
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk