Skip to content

Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu GIG ar gyfer Apwyntiadau Cyntaf fel Cleifion Allanol, Gorffennaf 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 2 Medi 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a ddaeth i law yn Ymddiriedolaethau GIG Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn cynnwys data am y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2008 a mis Gorffennaf 2009. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd gynt ar 5 Awst 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Nifer yr atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a ddaeth i law yn Ymddiriodolaethau GIG Cymru oedd 66,463 ym mis Gorffennaf 2009.
  • Roedd hyn yn gostwng o 7.3% o'i gymharu â mis Gorffennaf 2008 a gostwng o 0.3% o’i gymharu â mis Mehefin 2009.
    Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau sy’n ymwneud â Mehefin 2009.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau sy’n ymwneud â Gorffennaf 2009.

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 1612
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

7 Hydref 2009