Skip to content

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Galw Iechyd Cymru, Chwarter sy'n dod i ben Medi 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am alwadau i Galw Iechyd Cymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 4 Tachwedd 2009, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am alwadau i Galw Iechyd Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y chwarter  sy’n dod i ben Medi 2009. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 5 Awst 2009.

Mae’r datganiad yn dangos y nifer o alwadau wedi eu cynnig i Galw Iechyd Cymru. ‘Galwadau wedi eu cynnig’ yw galwadau lle mae’r galwr wedi gwrando ar yr holl neges croeso ac wedi aros ar y llinell am ateb. Ers y chwarter sy’n dod i ben Mehefin 2002, dangosir y nifer o alwadau wedi eu hateb. ‘Galwadau wedi eu hateb’ yw galwadau lle mae’r galwr yn siarad i weithredydd Galw Iechyd Cymru neu yn derbyn gwybodaeth o wasanaeth awtomatig.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd 144,300 o alwadau wedi eu cynnig i Galw Iechyd Cymru yn ystod y cyfnod o dri mis rhwng Gorffennaf a Medi 2009. Dyma cynnydd o 36 y cant ers y chwarter blaenorol. O gymharu blwyddyn â blwyddyn, gwelir cynnydd o 76 y cant ar fis Gorffennaf i fis Medi yn 2008-09.
  • Atebwyd 116,500 o alwadau gan Galw Iechyd Cymru yn ystod y cyfnod o dri mis rhwng Gorffennaf a Medi 2009. Dyma cynnydd o 26 y cant ers y chwarter blaenorol. O gymharu blwyddyn â blwyddyn, gwelir cynnydd o 53 y cant ar fis Gorffennaf i fis Medi yn 2008-09.
  • Yn ystod y 12 mis hyd at Medi 2009, roedd 426,600 o alwadau wedi eu cynnig i’r gwasanaeth; cynnydd o 23 y cant o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.  Atebwyd 369,800 o alwadau gan y gwasanaeth; cynnydd o 17 y cant o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
  • Yn ystod y tri mis hyd at Medi 2009, atebwyd Galw Iechyd Cymru mwy na 2,000 o alwadau (allan o dros 2,700 wedi eu cynnig) gan bobl a oedd yn dymuno cael siarad yn Gymraeg. Dyma cynnydd o 23 y cant o'i gymharu â’r un chwarter yn 2008-09 ac yn gyfystyr â tua 2 y cant o'r holl alwadau wedi eu hateb.
  • Roedd 70,700 o alwadau wedi eu cynnig i'r gwasanaeth 0845 a 73,500 o alwadau i wasanaethau eraill Galw Iechyd Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3598
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')