Skip to content

Mapiau Iechyd Cymru, Ionawr 2010

Bydd diweddariad i’r offeryn mapio Mapiau Iechyd Cymru ar gael o 27 Ionawr 2010. Mae’r diweddariad yn cynnig gwybodaeth mwy nag sydd wedi bod ar gael o’r blaen. Mae’r wefan yn cael ei darparu gan Atebion Iechyd Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Mapiau Iechyd Cymru yn cynnwys data am:

  • Derbyniadau ysbyty
  • Nifer yr achosion o ganser (ddiweddaru gyda data 2008)
  • Marwoldeb, yn cynnys marwoldeb canser, marwoldeb anaf, marwoldeb clefyd cardiofasgiwlar,  marwoldeb anhwylder resbiradol (ddiweddaru gyda data 2008)
  • Cyfradd ffrwythlondeb cyffredinol a genedigaethau. (ddiweddaru gyda data 2008)
  • Himiwneiddio yn plant
  • Iechyd deintyddol plant

Gellid mapio’r cyfraddau mwyafrif ar draws Cymru ar lefel Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ardaloedd â phoblogaeth rhwng 5,000 a 11,000 o bobl) ac ar flynyddoedd unigol, ond mae rhai sydd ond ar gael ar gyfer blynyddoedd cyfunol neu ar lefel daearyddol uwch ,oherwydd maint yr nifer.  Hefyd, gall data nawr gael eu mapio i'r Byrddau Iechyd Lleol newydd.

Disgwylir ychwanegu rhagor o ddangosyddion a gwella ymarferiad yn y diweddariadau yn y dyfodol.

Gwybodaeth bellach

Mapiau Iechyd Cymru

Cyswllt

Ffôn: 029 2080 1270
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd