Skip to content

Staff a Gyflogir yn Uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr ystadegau diweddaraf ar nifer y staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG, a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eu cyhoeddi ar 29 Ebrill 2010 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Mae’r ystadegau’n cynnwys data ar staff mewn swyddi ar 30 Medi 2009.  Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd eisoes ar 3 Mawrth 2009.

Dyma brif bwyntiau’r cyhoeddiad diweddaraf:

Rhwng 2008 a 2009 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):

  • Bu cynnydd o 1,270 (1.8 y cant) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 72,737.
  • Bu gostyngiad o 8 (0.2 y cant) yn y staff meddygol a deintyddol i 5,562; o hynny
    • Bu cynnydd o 48 (2.5 y cant) yn nifer ymgynghorwyr meddygol ysbytai i 1,941.
    • Bu cynnydd o 1 (0.1 y cant) yn nifer ymgynghorwyr deintyddol ysbytai i 41.
  • Bu cynnydd o 393 (1.4 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 28,199; o hynny
    • Bu cynnydd o 159 (0.7 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd â chymhwyster i 21,585.
    • Bu cynnydd o 234 (3.7 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd heb gymhwyster i 6,614.
  • Bu cynnydd o 359 (3.3 y cant) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 11,202.
  • Bu cynnydd o 94 (0.6 y cant) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 16,151; o hynny
    • bu cynnydd o 8 (0.3 y cant) yn nifer y rheolwyr i 2,763.
  • Bu cynnydd o 432 (3.9 y cant) yn nifer y staff arall (yn cynnwys cynorthwywr gofal iechyd, staff cymorth a staff ambiwlans) i 11,622.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5080
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')