Skip to content

Erthyliadau, 2009

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am erthyliadau yng Nghymru ar 25 Mai 2010, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau hyn ynghylch erthyliadau ymhlith menywod sy’n preswylio yng Nghymru yn dod o fwletin ystadegol a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd am ystadegau erthyliadau 2009 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r bwletin yn rhoi crynodeb o wybodaeth o'r ffurflenni hysbysu ynghylch erthyliad a ddychwelwyd i Brif Swyddogion Meddygol Cymru a Lloegr mewn perthynas ag erthyliadau yng Nghymru a Lloegr yn 2009. Ceir detholiad o wybodaeth am fenywod sy'n preswylio yng Nghymru isod.

Ffeithiau Allweddol:

  • Yn 2009, cafwyd 8,841 o erthyliadau gan fenywod yn preswylio yng Nghymru, sef lleihad o 3% ers 2008.
  • Cafodd 90% o erthyliadau eu cyflawni cyn 13 wythnos, gan gynnwys 68% o dan 10 wythnos.
  • Cafodd 92% o erthyliadau eu hariannu gan y GIG (61% yn ysbytai'r GIG a 31% yn y sector annibynnol dan gontract i'r GIG); cafodd y 7% arall eu hariannu'n breifat.
  • Roedd y gyfradd erthylu ar gyfer menywod sy'n byw yng Nghymru yn is na'r gyfradd yn Lloegr.

Wefan yr Adran Iechyd; maes gwaith Ystadegol

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')