Skip to content

Cleifion Mewn Ysbytai ac Unedau Iechyd Meddwl, 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar gleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 29 Mehefin 2010.

Mae'r ystadegau'n cynnwys data fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2009. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 28 Hydref 2008.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

Ar 31 Mawrth 2009:

Cleifion mewn ysbytai ac unedau i bobl â salwch meddwl yng Nghymru:

  • Roedd nifer y cleifion wedi gostwng 23 y cant i 1,733 ers 1999.  Rhwng 1998-99 a 2008-09 roedd nifer y gwelyau ar gael mewn ysbytai wedi gostwng 19 y cant.
  • Roedd 18 y cant o'r cleifion mewn ysbytai â mwy na 100 o gleifion o’i gymharu â 39 y cant yn 1999.
  • Cafodd 492 o gleifion (28 y cant ) eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill o'i gymharu â 381 o gleifion (17 y cant) yn 1999.
  • Roedd 855 o'r cleifion yn fenywod a 878 yn ddynion.
  • Roedd 60 y cant o'r cleifion benywaidd yn 65 oed neu'n hŷn o'i gymharu â 42 y cant o'r cleifion gwrywaidd.

Cleifion mewn ysbytai ac unedau i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru:

  • Roedd nifer y cleifion wedi gostwng 73 y cant i 114 ers 1999.    Rhwng 1998-99 a 2008-09 roedd nifer y gwelyau ar gael mewn ysbytai wedi gostwng 67 y cant.
  • Roedd nifer y cleifion a oedd wedi bod yno ers 2 flynedd neu fwy wedi gostwng 284 neu 78 y cant ers 1999.
  • Cofnodwyd bod pob claf wedi bod yn aros mewn ysbytai â llai na 100 o gleifion o'u cymharu â 28 y cant o'r cleifion yn 1999.
  • Roedd 41 o'r cleifion yn fenywod a 73 yn ddynion o'i gymharu â 178 yn fenywod a 252 yn ddynion ym 1999.  Cafodd 23 o gleifion, sef 20 y cant o'r cyfanswm, eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaeth arall.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)