Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG, Mehefin 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 22 Gorffennaf 2010 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Mehefin 2009 ac Mehefin 2010. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Treuliodd 88.1 y cant o gleifion llai na 4 awr mewn Adran Fawr Damweiniau ac Achosion Brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn cynnydd 0.8 y cant o’i gymharu â mis Mai.
  • Treuliodd 97.7 y cant o gleifion llai nag 8 awr mewn Adran Fawr Damweiniau ac Achosion Brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn cynnydd o 0.3 y cant o’i gymharu â mis Mai.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau ar gyfer mis Mehefin 2010.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

19 Awst 2010