Skip to content

Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol, Niferoedd Staff Mawrth 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar staff gwasanaethau cymdeithasol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 13 Hydref 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau yn cynnwys niferoedd y staff a gyflogwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2010. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Hydref 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae 27,000 o staff yn gweithio mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cynnwys 15,600 (58 y cant) staff rhan-amser ac 11,500 (42 y cant) staff amser llawn.
  • Roedd nifer y staff cyfwerth ag amser cyflawn a gyflogwyd yn 20,100, gostyngiad o 47 staff o 31 Mawrth 2009.
  • Roedd 15,100 o staff yn meddu ar gymhwyster gofynnol neu gymhwyster a argymhellwyd. Roedd hyn yn cynrychioli 60 y cant o gyfanswm nifer o staff.
  • Roedd 4,300 o staff yn siarad Cymraeg, hynny yw y rhai sy’n gallu defnyddio’r iaith at ddibenion busnes.  Roedd hyn yn cynrychioli 17 y cant o gyfanswm nifer o staff.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2011 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)