Skip to content

Cofrestrau Amddiffyn Plant Awdurdodau Lleol, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am gwasanaethau cymdeithasol i blant a gynhyrchir gan y Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 25 Tachwedd 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 24 Chwefror 2010.

Prif ganfyddiadau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010:

  • Roedd 2,700 o blant ar gofrestrau amddiffyn plant (gan gynnwys plant heb eu geni) ar 31 Mawrth 2010. Mae hyn yn gynnydd o 9 y cant o’i gymharu a 31 Mawrth 2009. Mae hyn yn cynrychioli graddfa o 43 plentyn i bob 10,000 o’r boblogaeth dan 18 oed.
  • Roedd y cofrestrau’n cynnwys 1,400 o fechgyn, 1,300 o ferched a 20 o blant heb eu geni ar 31 Mawrth 2010. Roedd 45 y cant o’r plant ar gofrestrau amddiffyn plant o dan bump oed.
  • Nodwyd y nifer uchaf o gofrestriadau yn y categorïau sy'n ymwneud ag esgeulustod (46 y cant) a'r isaf mewn categorïau o gam-drin rhywiol (9 y cant) (nodwch ei bod yn bosibl nodi mwy nag un categori o gamdriniaeth ar un gofrestriad).
  • Fe ychwanegwyd 3,400 o blant at gofrestrau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010, cynnydd o 10 y cant o’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer y plant a dynnwyd oddi ar y cofrestrau yn ystod y flwyddyn cynnydd 9 y cant i 3,200.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales  

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk  

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)