Skip to content

Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol Niferoedd staff, Mawrth 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar staff gwasanaethau cymdeithasol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 12 Hydref 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau yn cynnwys niferoedd y staff a gyflogwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Hydref 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae 26,100 o staff yn gweithio mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cynnwys 14,700 (56 y cant) o staff rhan-amser a 11,400 (44 y cant) o staff llawn amser.
  • Roedd nifer y staff cyfwerth ag amser cyflawn a gyflogwyd gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn 19,500, sef gostyngiad o 587 o 31 Mawrth 2010, a’r lefel isaf ers 2005.
  • Roedd 15,700 o staff yn meddu ar gymhwyster gofynnol neu gymhwyster a argymhellwyd. Roedd hyn yn cynrychioli 64 y cant o gyfanswm nifer y staff, o’i gymharu â 40 y cant yn 2006.
  • Roedd 4,300 o staff yn siarad Cymraeg, hynny yw y rhai sy’n gallu defnyddio’r iaith at ddibenion busnes.  Roedd hyn yn cynrychioli 18 y cant o gyfanswm nifer y staff.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)