Skip to content

Cofrestrau Amddiffyn Plant Awdurdodau Lleol, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant, a gynhyrchir gan Llywodraeth Cymru, ar 23 Tachwedd 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 25 Tachwedd 2010.

Prif ganfyddiadau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2011:

  • Roedd 2,900 o blant ar gofrestrau amddiffyn plant (gan gynnwys plant heb eu geni) ar 31 Mawrth 2011. Roedd hyn yn gynnydd o 6 y cant o’i gymharu â 31 Mawrth 2010 ac yn cynrychioli cyfradd o 46 plentyn i bob 10,000 o’r boblogaeth dan 18 oed.
  • Roedd y cofrestrau’n cynnwys 1,500 o fechgyn, 1,400 o ferched a 10 o blant heb eu geni ar 31 Mawrth 2011.  Roedd 45 y cant o’r plant ar gofrestrau amddiffyn plant o dan 5 oed.
  • Nodwyd y nifer uchaf o gofrestriadau categorïau yn y sy'n ymwneud ag esgeulustod (47 y cant) a’r nifer isaf yn y categorïau sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol (7 y cant) (nodwch ei bod yn bosibl nodi mwy nag un categori o gamdriniaeth).
  • Fe ychwanegwyd 3,700 o blant at gofrestrau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2011, cynnydd o 10 y cant o’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd nifer y plant a dynnwyd oddi ar y cofrestrau wrth 13 y cant i 3,600 yn ystod y flwyddyn.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)