Skip to content

Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, Rhagfyr 2011

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru, ar 24 Ionawr 2012 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn cynnwys data ar gyfer Cymru ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 21 Rhagfyr 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfanswm y cleifion a gafodd brofiad o oedi wrth drosglwyddo gofal ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 21 Rhagfyr 2011 oedd 410; mae hyn yn ostyngiad o 75, neu 15 y cant, o’i gymharu â’r ffigwr ar gyfer 16 Tachwedd 2011. Mae’r patrwm hirdymor yn dangos gostyngiad cyson, ond anwadal, dros y saith blynedd diwethaf o lefel o dros 1,000 yn mis Mawrth 2004 i’r is presennol o 410 yn Rhagfyr 2011.
  • Cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i adael yr ysbyty oedd 345.  O blith y rhain, roedd 104 wedi’u cadw mewn cyfleusterau iechyd meddwl, ac roedd 241 mewn ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol eraill. Roedd cyfanswm o 40 o gleifion ychwanegol yn profi oedi wrth drosglwyddo oddi mewn i’r GIG neu’n aros am asesiad ac, yn achos 25 o gleifion, nid oedd modd pennu’r cam nesaf.
  • Oedi am resymau gofal yn y gymuned oedd yn cyfrif am 74 (26 y cant) o'r 286 o gleifion mewn ysbytai aciwt a chymunedol o gymharu â 77 (27 y cant) am resymau gofal iechyd, 53 (19 y cant) oedd yn aros am gael cartref gofal a 82 (29 y cant) am resymau eraill, gan gynnwys cyfreithiol / ariannol, anghytundeb, a dewis cartref gofal.
  • Mae nifer yr oedi mewn ysbytai aciwt a chymunedol fel canran o gyfartaledd nifer y gwelyau sydd ar gael yn amrywio o 2.2 y cant i 14.5 y cant.
  • Roedd y gyfradd o oedi wrth drosglwyddo fesul 10,000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd ar gyfer cleifion o bob oed mewn ysbytai aciwt a chymunedol ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod unedol yn amrywio o 4.3 fesul 10,000 i 24.0 fesul 10,000.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

21 Chwefror 2012