Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG, Rhagfyr 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 26 Ionawr 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2010 a Rhagfyr 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 29 Rhagfyr 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Treuliodd 89.5 y cant o gleifion llai na 4 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau;
  • Treuliodd 97.3 y cant o gleifion llai nag 8 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau; a
  • Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae perfformiad yn erbyn y targedau wedi tueddu i ostwng dros fisoedd y gaeaf ac wedyn codi tan ddiwedd misoedd yr haf. Er hynny, mae’n rhy fuan i ddweud pa effaith mae’r newid technegol isod yn cael ar y gyfres amser.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau ar gyfer mis Rhagfyr 2011.

Mae rhai newidiadau technegol i'r ffordd mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn adrodd eu data, sydd wedi cael eu rhoi ar waith o fis Rhagfyr 2011, er mwyn i’r diffiniadau yng Nghymru fod yn fwy cydnaws â'r diffiniadau yn Lloegr am waharddiadau clinigol a gweithredol. Gweler yr adran nodiadau ar ddiwedd y datganiad am fanylion y newidiadau.

O ganlyniad i'r newidiadau hyn, dylai defnyddwyr nodi'r canlynol:

  • mae cynnydd mewn perfformiad yn erbyn y targedau’r mis hwn yn rhannol debygol o fod oherwydd y newidiadau technegol; a
  • ni fydd data cyn mis Rhagfyr 2011 yn cael eu cymharu'n uniongyrchol â data ar gyfer y mis yma na misoedd yn y dyfodol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

23 Chwefror 2012