Skip to content

Ystadegau Mamolaeth: Dull Geni, 2001-2011

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Ystadegau Mamolaeth, Cymru: dull geni, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 31 Ionawr 2012, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau am Ystadegau Mamolaeth, Cymru: dull geni yn cynnwys data ar gyfer Cymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 23 Chwefror 2011.

Cofrestrwyd bron i 36,000 o enedigaethau byw yng Nghymru yn 2010 (darparwyd data gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Cafodd ychydig llai na 4 y cant ohonynt eu geni ar yr aelwyd neu mewn man arall; ganed y mwyafrif (96%) mewn ysbyty neu sefydliad tebyg. Mae'r Datganiad hwn yn cyflwyno data ar y dull o eni babanod mewn ysbytai yn unig.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar gofrestru genedigaethau'n rheolaidd ac fe'i cynhwysir yng nghyhoeddiadau ac ar wefan Llywodraeth Cyrmu.

Ffeithiau Allweddol

  • Bu cynnydd yng nghyfran y genedigaethau Cesaraidd mewn ysbytai, o 24 y cant ym 2001-02 i 26 y cant yn 2010-11. Byddai amcangyfrif o gyfradd cenedlaethol y genedigaethau Cesaraidd yn gorfod cynnwys y genedigaethau ar yr aelwyd ac mewn mannau eraill.  Byddai hynny'n rhoi cyfradd o 25 y cant i Gymru yn lle 26 y cant.

Yn 2010-11:

  • cafodd 15 y cant o'r mamau o dan 20 oed doriad Cesaraidd. Mae hyn yn cymharu â 56 y cant o'r mamau 45 oed neu hŷn.
  • cafodd 70 y cant o'r mamau o dan 20 oed faban heb gymorth. Mae hyn yn cymharu â 56 y cant o'r mamau 45 oed neu hŷn.
  • arhosodd 37 y cant o famau a esgorodd trwy doriad Cesaraidd yn yr ysbyty am 4 diwrnod neu fwy. Fodd bynnag, dim ond 11 y cant o'r mamau a esgorodd heb gymorth arhosodd yn yr ysbyty am 4 diwrnod neu fwy.
  • cafodd 19 y cant o’r holl enedigaethau yng Nghymru eu hysgogi.
  • y prif gymhlethdod yn ystod esgor a genedigaeth oedd rhwygiadau'r perinëwm, a gofnodwyd mewn 36 y cant o’r genedigaethau.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')