Skip to content

Cyfrifiad Plant Mewn Angen Cymru, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf o Gyfrifiad Plant Mewn Angen Cymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar Chwefror 29ain 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae ystadegau ar blant mewn angen yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 24 Chwefror 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad:

  • Roedd 19,655 o blant mewn angen wedi’u cynnwys yn y Cyfrifiad Plant Mewn Angen ar Fawrth 31 2011, sef cyfradd o 315 fesul 10,000 o blant o dan 18 oed, a 55 heb eu eni.
  • Daeth mwy na thraean (36 y cant) o atgyfeiriadau o adrannau awdurdodau lleol, a daeth 28 y cant pellach o wasanaethau heddlu ac o wasanaethau iechyd sylfaenol neu cymunedol.
  • Roedd anabledd gan chwarter (25 y cant) o blant mewn angen.
  • Rhieni’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol neu cam-drin domestig oedd y ffactorau a’u cofnodwyd amlach fel penderfynyddion y gallu i fagu plant.
  • Roedd cyrhaeddiad plant mewn angen ar bob asesiad Cyfnod Allweddol yn lawer llai na’r cyfartaledd ar gyfer holl ddisgyblion.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')