Skip to content

Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, Chwefror 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru, ar 20 Mawrth 2012 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn cynnwys data ar gyfer Cymru ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 15 Chwefror 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 21 Chwefror 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfanswm y cleifion a gafodd brofiad o oedi wrth drosglwyddo gofal ar ddyddiad y cyfrifiad, sef 15 Chwefror 2012 oedd 452; mae hyn yn gynnydd o 5, neu 1 y cant, o’i gymharu â’r ffigwr ar gyfer 18 Ionawr 2012. Mae’r patrwm hirdymor yn dangos gostyngiad cyson, ond anwadal, dros y saith blynedd diwethaf o lefel o dros 1,000 yn mis Mawrth 2004 i tua 500 yn y flwyddyn diwethaf.
  • Cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i adael yr ysbyty oedd 374.  O blith y rhain, roedd 110 wedi’u cadw mewn cyfleusterau iechyd meddwl, ac roedd 264 mewn ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol eraill. Roedd cyfanswm o 51 o gleifion ychwanegol yn profi oedi wrth drosglwyddo oddi mewn i’r GIG neu’n aros am asesiad ac, yn achos 27 o gleifion, nid oedd modd pennu’r cam nesaf.
  • Oedi am resymau gofal yn y gymuned oedd yn cyfrif am 79 (24 y cant) o'r 331 o gleifion mewn ysbytai aciwt a chymunedol o gymharu â 103 (31 y cant) am resymau gofal iechyd, 59 (18 y cant) oedd yn aros am gael cartref gofal a 90 (27 y cant) am resymau eraill, gan gynnwys cyfreithiol / ariannol, anghytundeb, a dewis cartref gofal.
  • Mae nifer yr oedi mewn ysbytai aciwt a chymunedol fel canran o gyfartaledd nifer y gwelyau sydd ar gael yn amrywio o 1.6 y cant i 12.6 y cant.
  • Roedd y gyfradd o oedi wrth drosglwyddo fesul 10,000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd ar gyfer cleifion o bob oed mewn ysbytai aciwt a chymunedol ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod unedol yn amrywio o 0.9 fesul 10,000 i 22.6 fesul 10,000.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

24 Ebrill 2012