Skip to content

Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol, 2001 i 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yn Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 21 Mawrth 2012, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau yn cynnwys data ar ymarferwyr oedd yn gweithio ar 30 Medi 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 22 Mawrth 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd y  nifer o ymarferwyr yng Nghymru (ac eithrio cofrestryddion, daliedyddion, a staff locwm) yn 2,022 ar 30 o Fedi 2011, 31 (1.6 y cant) yn fwy na’r flwyddyn gynt a chynnydd o 215 (11.9 y cant) ers 2001.
  • Yn 2011 roedd 483 o bartneriaethau meddyg teulu yng Nghymru, 34 (6.6 y cant) yn llai nag yn 2001.
  • Ers 2001 mae’r nifer o gleifion cofrestredig am bob ymarferydd, yn seiliedig ar y nifer o ymarferwyr, wedi disgyn o 1,665 i 1,564 (6.1 y cant).
  • Mae dosbarthiad oed hefyd wedi newid ers 2001. Mae’r gweithlu yn parhau â’i duedd i fod yn hŷn. Mae llai o ymarferwyr sydd o dan 45 oed (893 i 800) tra bod mwy yn 55 oed neu’n hŷn (308 i 468).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')