Skip to content

Mapiau Iechyd Cymru, Diweddariad mis Mawrth 2012

Mae fersiwn 10 o Mapiau Iechyd Cymru ar gael o’r 21 o Fawrth 2012. Mae’r diweddariad yn cynnig mwy o wybodaeth na sydd wedi bod ar gael o’r blaen. Mae’r wefan yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn cynnwys:

  • Achosion Canser (2010)
  • Data ar farwolaethau (2010):
    • Marwolaethau (pob achos)
    • Marwolaethau canser
    • Marwolaethau clefyd cardiofasgwlaidd
    • Marwolaethau anafiadau
    • Marwolaethau Clefyd anadlol
    • Marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol
  • Genedigaethau (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) (2010)
  • Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (2011)

Gellir mapio’r mwyafrif o’r data ar draws Cymru ar lefel ardal Allbwn Haen Ganol Ehangach MSOA (ardaloedd â phoblogaeth rhwng 5,000 a 11,000 o bobl) ac ar gyfer blynyddoedd unigol, ond mae peth data ond ar gael ar gyfer blynyddoedd cyfunol neu ar lefel daearyddol uwch oherwydd maint y rhifau.  Hefyd, gall data nawr gael ei fapio i'r Byrddau Iechyd Lleol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg: Mae Mapiau Iechyd Cymru 

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2080 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd