Skip to content

Staff a Gyflogir yn Uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr ystadegau diweddaraf ar nifer y staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG, a baratowyd gan Lywodraeth Cymru, eu cyhoeddi ar 30 Mawrth 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Mae’r ystadegau’n cynnwys data ar staff mewn swyddi ar 30 Medi 2010. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd eisoes ar 29 Mawrth 2011.

Rhwng 2010 a 2011 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn):

  • Bu lleihad o 627 (0.9 y cant) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 71,817.
  • Bu cynnydd o 159 (2.8 y cant) yn y staff meddygol a deintyddol i 5,813.   O’r staff hynny, bu cynnydd o 85 (4.1 y cant) yn nifer ymgynghorwyr meddygol a deintyddol ysbytai I 2,172.
  • Bu lleihad o 170 (0.6 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 27,999. O’r staff hynny
  • Bu lleihad o 90 (0.4 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd â chymhwyster i 21,733.
  • Bu lleihad o 80 (1.3 y cant) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd sydd heb gymhwyster i 6,266.
  • Bu lleihad o 33 (0.3 y cant) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 11.450.
  • Bu lleihad o 273 (1.8 y cant) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 15,230. O’r rhai hynny bu lleihad o 250 (10.7 y cant) yn nifer y rheolwyr i 2,092.
  • Bu lleihad o 310 (2.7 y cant) yn nifer y staff arall (yn cynnwys cynorthwywr gofal iechyd, staff cymorth a staff ambiwlans) i 11,326.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

March 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')