Skip to content

Gwasanaethau Ambiwlans, Chwefror 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 4 Ebrill yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau am y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer Chwefror 2012. Mae’r datganiad diweddaraf, sydd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu Fframwaith Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2011-12, yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 7 Mawrth.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • cafwyd bron 33,000 o alwadau brys, roedd ychydig yn llai na 13,000 yn alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol); a
  • cyrhaeddodd 63.2% (7,921) o'r ymatebion brys i alwadau oedd yn fygythiad uniongyrchol i fywyd (Categori A) o fewn 8 munud, yn is na tharged Cymru-gyfan o 65% ar gyfer dim ond yr ail dro yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

2 Mai 2012