Skip to content

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi GIG: Ddiwedd Chwefror 2012

Dolenni perthnasol

Y Nifer o bobl sy yn cael eu trin o fewn 26 wythnosau o'r dyddiad y llythyr cyfeirio wedi derbyniedig yn yr ysbyty.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi penodedig (gweler y datganiad am fanylion o’r gwasanaethau a gynhwysir) ar gyfer y GIG yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 12 Ebrill 2012, yn unol a'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am amseroedd aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer pob claf, pa bynnag ardal maent yn byw ynddo, sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Chwefror 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 8 Mawrth 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Bu lleihad o 9,893 i 8,370 yn y nifer y bobl a fu'n aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig.
  • Bu cynnydd o 2,499 i 3,070 yn y nifer y bobl a fu'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi.

Mae ystadegau ar amrywiaeth o Amserau Aros y GIG yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi gyda’i gilydd. Mae ‘Atgyfeiriad am driniaeth GIG Cymru – Chwefror 2012’ yn cael ei cyhoeddi heddiw hefyd.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

10 Mai 2012