Skip to content

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Galw Iechyd Cymru, Chwarter sy'n dod i ben Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am alwadau i Galw Iechyd Cymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 2 Mai 2012, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am alwadau i Galw Iechyd Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y chwarter sy’n dod i ben ym Mawrth 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 1 Chwefror 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Gwnaed 77,700 o alwadau i Galw Iechyd Cymru, roedd 73,600 (95%) o’r rhain i’r prif rif 0845;
  • Atebwyd 65,100 o alwadau gan Galw Iechyd Cymru, roedd 61,800 (95%) o’r rhain i’r prif rif 0845;
  • Trosglwyddwyd mwy na 8,600 o alwadau i Galw Iechyd Cymru, gan Wasanaethau Ambiwlans Ymddiriedolaeth GIG Cymru, ar gyfer brysbennu clinigol;
  • Atebwyd 750 o alwadau (allan o 1,100 oedd wedi eu gwneud) gan alwyr oedd eisiau’r dewis o’r alwad fod yn Gymraeg (tua 1 y cant o’r holl alwadau a atebwyd);
  • Bu mwy na 323,000 o ymweliadau i’r wefan Galw Iechyd Cymru, mwy na dwbl y nifer yn y chwarter Ionawr i Mawrth yn 2011; a
  • Cafodd 826 o ymholiadau ar-lein eu gwneud i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we, bron i 40 y cant yn fwy na’r nifer (591) wrth ei gymharu â chwarter Ionawr i Mawrth yn 2011.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

1 Awst 2012