Skip to content

Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu GIG ar gyfer Apwyntiadau Cleifion Allanol, Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a ddaeth i law yn Byrddau Iechyd  Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn cynnwys data am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2011 a mis Mawrth 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ynghynt ar 4 Ebrill 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Nifer yr atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a ddaeth i law yn Byrddau Iechyd Cymru oedd 68,901 ym mis Mawrth 2012;
  • Roedd hyn yn leihad o 1.2% o'i gymharu â mis Mawrth 2011 a cynnydd o 5.1% o’i gymharu â mis Chwefror 2012, yng Nghymru i gyd.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau sy’n ymwneud â Mawrth 2012.

Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad ansawdd manwl am ystadegau atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu GIG Cymru sydd yn cynnwys manylion am ein defnyddwyr. Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth am gynnwys a pha mor ddefnyddiol yw’r adroddiad ansawdd.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

7 Mehefin 2012