Skip to content

Amseroedd Atgyfeiriad am Driniaeth, Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Nifer y bobl yn aros am fwy na 8 wythnos ar gyfer gwasanaethau diagnostig a 14 wythnos ar gyfer gwasanaethau therapi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau dros dro diweddaraf ar amseroedd aros am atgyfeiriad am driniaeth a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys data am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth 2012 ac yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 12 Ebrill 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd cyfanswm o 390,228 o gleifion yn aros am i’w driniaeth i gychwyn ar ddiwedd Mawrth. O’r rhain, roedd 94.0 y cant wedi aros llai na 26 wythnos ac 99.6 y cant wedi aros llai na 36 wythnos o’r dyddiad derbyn y llythyr cyfeiriad yn yr ysbyty.
  • Cafodd cyfanswm o 83,613 o gleifion driniaeth yn ystod mis Mawrth. O’r rhain, cafodd 82.2 y cant driniaeth o fewn 26 wythnos a 94.7 y cant o fewn 36 wythnos o’r dyddiad derbyn y llythyr cyfeiriad yn yr ysbyty.

Cyflwynir gwybodaeth am arbenigeddau sydd ddim yn cael eu cynnwys gan adroddiadau atgyfeiriad am driniaeth hefyd yn y datganiad.

Mae ystadegau ar amrywiaeth o Amserau Aros y GIG yng Nghymru yn awr yn cael eu cyhoeddi gyda’i gilydd. Mae ‘Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG Cymru: Diwedd Mawrth 2012’ yn cael ei gyhoeddi heddiw hefyd.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

14 Mehefin 2012