Skip to content

Arolwg Iechyd Cymru, 2009 a 2010: Ffordd o Fyw Iechyd Cyfunol Oedolion

Dolenni perthnasol

Yn cynnwys data ar salwch, ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd, a iechyd plant.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ffordd o fyw iechyd cyfunol oedolion, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 22ain Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau yma ar ffordd o fyw iechyd cyfunol oedolion wedi eu seilio ar ddata cyfunol o Arolygon Iechyd Cymru 2009 a 2010.

Mae Arolwg Iechyd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bedwar prif ffyrdd o fyw sy’n gysylltiedig â iechyd, sef:

  • Ysmygu
  • Yfed alcohol
  • Ffrwythau a llysiau a fwytawyd
  • Gweithgaredd corfforol

Hyd yn hyn, astudiwyd yr ymddygiadau iechyd yma yn unigol, fodd bynnag mae’r dadansoddiad yma yn astudio ymddygiad cyfunol oedolion ar gyfer y pedwar ymddygiad yma, hynny yw, yr ystent y mae oedolion yn dilyn ffordd o fyw gwbl iach, a’r ystent y mae ganddynt amryfal o ymddygiadau nad yw’n iach.

Prif bwyntiau

Yn 2009 a 2010:

  • Adroddodd 6 y cant o oedolion eu bod yn dilyn y pedwar ffordd o fyw iach (sef dim ysmygu, dim yn yfed dros y canllawiau, yn bwyta pump neu fwy o gyfrannau o ffrwythau a llysiau y dydd, ac yn gwneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol sydd yn gymedrol o ddwys, ar bump neu fwy o ddiwrnodau’r wythnos).
  • Adroddodd 23 y cant o oedolion fod ganddynt ond un ymddygiad nad yw’n iach, ac adroddodd y 71 y cant pellach o oedolion fod ganddynt amryfal o ymddygiadau nad yw’n iach, gan gynnwys 6 y cant a adroddodd y pedwar ymddygiad nad yw’n iach.
  • Yr oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd fwyaf amddifad oedd fwyaf tebygol o adrodd fod ganddynt y pedwar ymddygiad nad yw’n iach, o’i gymharu â rheini yn yr ardaloedd lleiaf amddifad.
  • Roedd oedolion a adroddodd fod ganddynt nifer uwch o ymddygiadau iach hefyd yn fwy tebygol o adrodd gwell iechyd a lles meddyliol, ac yn llai tebygol o adrodd iechyd gweddol neu gwael.

Nodwch fod y prif ganlyniadau cychwynnol o Arolwg Iechyd Cymru 2011 hefyd wedi cael eu cyhoeddi ar 22ain o Fai 2012.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd