Skip to content

Absenoldeb Oherwydd Salwch y GIG, Chwarter yn Diweddu Rhagfyr 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 23 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar absenoldeb oherwydd salwch yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2011. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 23 Chwefror 2012.

Canlyniadau Allweddol ar gyfer y chwarter yn dod i ben Rhagfyr 2011

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.4 y cant, sy’n debyg i’r ffigur am yr un cyfnod yn 2010.
  • O'r 7 Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) a’r  3 Ymddiriedolaeth GIG, y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oedd a’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf (6.7 y cant). Ymddiriedolaeth GIG Felindre oedd a’r gyfradd isaf (3.6 y cant).
  • O'r 6 grŵp staff, cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth (7.5 y cant) oedd a’r cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch uchaf.
  • Y grŵp staff meddygol a deintyddol oedd a’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf (1.3 y cant).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Awst 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)