Skip to content

Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG, Ebrill 2012

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 31 Mai 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Ebrill 2011 a Ebrill 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Treuliodd 88.6 y cant o gleifion llai na 4 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn gynnydd o 0.6 pwynt canran ers Mawrth 2012;
  • Treuliodd 96.5 y cant o gleifion llai nag 8 awr mewn cyfleusterau Holl Ofal Brys Ysbyty rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau. Mae hyn yn lleihad o 0.2 pwynt canran ers Mawrth 2012; a
  • Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae perfformiad yn erbyn y targedau wedi tueddu i ostwng dros fisoedd y gaeaf ac wedyn codi tan ddiwedd misoedd yr haf.

Ffigurau dros dro yw’r holl ffigurau ar gyfer mis Ebrill 2012.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

28 Mehefin 2012