Skip to content

Amser Aros Canser GIG, Chwarter yn dod i ben Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Amseroedd Aros Canser, a gynhyrchir gan Llywodraeth Cymru, ar 7 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar Amseroedd Aros Canser yn cynnwys data ar gyfer Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru am y Chwarter yn dod i ben Mawrth 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 7 Mawrth 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd 90 y cant o’r cleifion a oedd newydd dderbyn diagnosis canser a gyfeiriwyd fel achosion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi dechrau triniaeth swyddogol o fewn 62 diwrnod i'w cyfeirio. Ers y chwarter a ddaeth i ben yn Medi 2008, mae'r ffigwr yma wedi amrywio rhwng y 90au isel a chanolig. Disgynnodd y ffigwr o dan 90 y cant yn y chwarteri a ddaeth i ben ym Mehefin a Medi 2011, ond cododd i 90 y cant yn y chwarteri a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2011 a Mawrth 2012.
  • Roedd 99 y cant o’r cleifion a oedd newydd dderbyn diagnosis canser na chawsant eu cyfeirio fel achosion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi dechrau triniaeth swyddogol o fewn 31 diwrnod o dderbyn diagnosis. Mae'r tuedd tymor hir wedi bod yn weddol sefydlog, yn amrywio rhwng 98 a 99 y cant ers y chwarter a ddaeth i ben yn Medi 2007 ac yn gyffredinol yn cyrraedd y targed.
  • Ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol (BILl), cyrhaeddodd 5 allan o’r 6 BILl y targed o ddylai o leiaf 98 y cant o gleifion a oedd newydd dderbyn diagnosis canser na chawsant eu cyfeirio fel achosion brys yr amheuir bod canser arnynt ddechrau triniaeth swyddogol o fewn 31 diwrnod o dderbyn diagnosis. Dim ond un BILl gyrhaeddodd y targed o ddylai o leiaf 95 y cant o gleifion a oedd newydd dderbyn diagnosis canser a gyfeiriwyd fel achosion brys yr amheuir bod canser arnynt ddechrau triniaeth swyddogol o fewn 62 diwrnod i'w cyfeirio.

Am ddata Ebrill 2012 ymlaen, byddwn ni yn cyhoeddi amseroedd aros canser ar yn fisol ac yn chwarterol. Mae hyn mewn ymateb i alw defnyddwyr. Gweler y Nodiadau ar dudalen 5 o'r datganiad am fwy o fanylion.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

27 Mehefin 2012