Skip to content

Amserau Aros Canser GIG, Ebrill 2012

Dolenni perthnasol

Ystadegau ar yr amser rhwng diagnosis cychwynnol i ddechrau triniaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol misol ar Amseroedd Aros Canser a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar Fehefin 27ain 2012 yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r Ystadegau ar amseroedd aros Canser yn cynnwys data ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru ar gyfer Ebrill 2012. Mae’r cyhoeddiad yma yn diweddaru’r ystadegau chwarterol a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 7fed o Fehefin 2012.

Dyma’r pwyntiau allweddol ar gyfer Ebrill 2012:

  • Ar gyfer y cleifion hynny a oedd newydd wedi derbyn diagnosis canser a chawsant eu cyfeirio fel achosion brys yr amheuir bod canser arnynt, fe ddechreuodd 87.4 y cant ohonynt (366 allan o 419) driniaeth swyddogol o fewn yr amser darged o 62 dydd. Ers y chwarter yn dod i ben Medi 2008, mae’r ganran yma wedi bod o gwmpas y 90au isel-ganol ar ddiwedd pob chwarter. Fe ostyngodd islaw 90 y cant yn y chwarterau yn dod i ben Mehefin a Medi 2011, ond cynyddodd i 90 y cant ar gyfer y chwarterau yn dod i ben Rhagfyr 2011 a Mawrth 2012.
  • Ar gyfer y cleifion hynny a oedd newydd wedi derbyn diagnosis canser a ni chawsant eu cyfeirio fel achosion brys, fe ddechreuodd 98.2 y cant ohonynt (725 allan o 738) driniaeth swyddogol o fewn yr amser darged o 31 dydd. Mae’r tuedd tymor hir wedi bod yn weddol statig, yn amrywio ar gyfer pob chwarter o gwmpas 98 a 99 y cant ers y chwarter yn dod i ben Medi 2007.
  • Fe wnaeth 3 allan o’r 6 Bwrdd Iechyd Lleol gwrdd â’r targed sy’n dweud y dylai o leiaf 98 y cant o gleifion sydd newydd wedi derbyn diagnosis canser a ni chawsant eu cyfeirio fel achosion brys ddechrau triniaeth swyddogol o fewn 31 dydd. Fe wnaeth 2 allan o’r 6 Bwrdd Iechyd Lleol gwrdd â’r targed sy’n dweud y dylai o leiaf 95 y cant o gleifion sydd newydd wedi derbyn diagnosis canser a chawsant eu cyfeirio fel achosion brys ddechrau triniaeth swyddogol o fewn 62 dydd.

Mae’r holl ffigyrau sy’n cyfeirio at Ebrill 2012 yn rhai dros dro. Dylid nodi fod niferoedd llai yn yr ystadegau misol, ac felly dylid cymryd gofal pan yn dehongli’r canrannau.

Er mwyn dod o hyd i’r data misol (sy’n cynnwys dadansoddiad fesul LHB), ewch i’n gwefan StatsCymru. Mae’r data yn cael ei gyhoeddi yn fisol fesul StatsCymru ar dudalen pennawd. Ar sail chwarterol, rydym yn cynhyrchu Datganiad Ystadegol sy’n cynnwys data ar gyfer y tri mis blaenorol, sylwebaeth fanwl a gwybodaeth ar y targedau ac unrhyw diwygiadau.

Rydym hefyd yn cynhyrchu adroddiad ansawdd sydd â gwybodaeth am y fethodoleg, fel mae’r data (misol a chwarterol) yn cael ei gyhoeddi, diffiniadau, gwybodaeth am ddatgeliad a gwybodaeth ar fel y mae diwygiadau i’r data yn cael eu trin.

Diwygiadau

Does dim diwygiadau wedi bod i’r data ar gyfer y chwarter yn dod i ben 31 Mawrth 2012, a gyhoeddwyd yn y Datganiad Ystadegol ar 7fed o Fehefin 2012.

Adborth

Gan fod hyn yn ffurf newydd o gyhoeddi amseroedd aros canser, byddwn yn gwerthfawrogi eich adborth.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

25 Gorffennaf 2012