Skip to content

Tybaco a Iechyd yng Nghymru, 2012

Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i gyhoeddi adroddiad o’r enw “Tybaco a Iechyd yng Nghymru”, a gyhoeddwyd ar Fehefin 27ain 2012 ar wefan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad yn darparu ystod o wybodaeth ar ysmygu yng Nghymru, a’i heffaith ar iechyd ac ar wasanaethau iechyd.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Prif bwyntiau:

  • Ysmygu sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd. Ymhlith pobl 35 oed a throsodd, mae ysmygu yn achosi bron un o bob pump o’r holl farwolaethau a thua thraean o’r anghydraddoldeb mewn marwolaethau rhwng yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf a’r ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf.
  • Dywedodd 23 y cant o oedolion eu bod yn ysmygu yn 2010. Mae hyn yn sylweddol is na’r ganran yn yr 1970au, ond mae’r gostyngiad yn y gyfradd wedi arafu yn ddiweddar. At ei gilydd, mae ysmygu’n fwy cyffredin ymhlith dynion nag ymhlith menywod, ond mae’r gwrthwyneb yn wir ymhlith plant a phobl ifanc.
  • Mae’r cyfraddau ysmygu ar eu huchaf yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Mae mwy na 40 y cant o bobl nad ydynt erioed wedi gweithio neu sy’n ddi-waith yn ysmygu, ac nid oes unrhyw arwyddion bod y ffigur hwn yn gostwng. Mae cyfraddau ysmygu ymysg grwpiau rheoli a phroffesiynol yn parhau i ostwng. Mae’r tueddiadau hyn yn debygol o gyfrannu at waethygu anghydraddoldebau iechyd yn y dyfodol.
  • Mae’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yn 2007 wedi golygu bod llawer llai o oedolion yn dod i gysylltiad â mwg ail-law. Fodd bynnag, mae 39 y cant o blant yn byw mewn cartrefi lle mae o leiaf un oedolyn yn ysmygu, ac mae 20 y cant yn dweud eu bod wedi dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn ceir yn ddiweddar.
  • Mae’r cyfraddau marwolaeth cyffredinol oherwydd ysmygu yn gostwng, ond mae anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn cynyddu o ganlyniad i ostyngiadau cyflymach yn y rhannau o Gymru â’r amddifadedd lleiaf o gymharu â’r rhannau â’r amddifadedd mwyaf. Mae cyfraddau marwolaethau oherwydd canser yr ysgyfaint ymhlith menywod wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU dros y deng mlynedd diwethaf, ond mae’r cyfraddau hynny wedi gostwng fymryn ymhlith dynion. Mae’n debygol bod hyn yn adlewyrchu’r gwahaniaethau ym mhatrymau ysmygu dynion a menywod ar ddiwedd yr 20fed ganrif.
  • Amcangyfrifir bod ysmygu yn arwain at tua 27,700 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru. Mae hyn yn faich sylweddol ar y gwasanaeth iechyd.

Ceir data manylach ar wefan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ffurf taenlenni rhyngweithiol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tybaco a Iechyd yng Nghymru 2012

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd