Skip to content

Mynegai Prisiau Tai, Mawrth 2011

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar 17 Mai 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth am y cyfnod Mawrth 2011.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Ebrill 2011.

Cyfrifir y Mynegai Prisiau Tai (HPI) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol fel cyfres fisol o newidiadau mewn prisiau tai ers mis Chwefror 2002 ar draws rhanbarthau gwahanol y DU (gan gynnwys Cymru).  Nid yw'r data yn cael ei addasu'n dymhorol ar hyn o bryd - o’r herwydd, dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus.

Mae ffigurau prisiau tai Chwefror 2011 wedi eu diwygio ers cyhoeddi'r rhai blaenorol.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2011, gwelwyd gostyngiad o 2.5 y cant yn y HPI yng Nghymru, o’i gymharu â gostyngiad blynyddol o 2.2 y cant, hyd at fis Chwefror 2011.
  • Ar draws y DU cyfan, cynyddodd y mynegai prisiau tai 0.9 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2011, o’i gymharu â chynnydd blynyddol o 0.5 y cant, hyd at fis Chwefror 2011.
  • O gymharu mis Mawrth 2011 â mis Chwefror 2010 (heb eu haddasu'n dymhorol), gwelwyd cynnydd bach yng nghyfartaledd prisiau tai yng Nghymru a dros y DU ar y cyfan.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Mawrth 2011 oedd £145,053 yr ail ffigur isaf o blith rhanbarthau’r DU (dim ond yn uwch na Gogledd-ddwyrain Lloegr).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn y DU ym mis Mawrth 2011 oedd £205,565, a’r ffigur ar gyfer y DU, heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £168,777.

Nodiadau:
*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Mynegai Prisiau Tai, Mawrth 2011 

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')